Helpwch i lunio dyfodol Gŵyr drwy gymryd rhan yn ein harolwg Cysylltiadau Tirwedd Gŵyr

Mae tîm Cysylltiadau Tirwedd Gŵyr, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn gwahodd pobl leol, ymwelwyr ac unrhyw un sydd â chysylltiad â Gŵyr i helpu i lunio dyfodol y penrhyn annwyl hwn drwy gymryd rhan mewn arolwg cyhoeddus newydd. 

Bydd canlyniadau’r arolwg yn llywio cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda’r nod o sefydlu rhaglen waith hirdymor a fydd yn rhoi cymunedau, natur a lle wrth wraidd dyfodol Gŵyr. Mae’r tîm yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl â phosibl er mwyn sicrhau bod y cynnig yn adlewyrchu anghenion, uchelgeisiau a dyheadau’r rhai sy’n adnabod ac yn gwerthfawrogi’r dirwedd. 

Gower NL - Llangennith Beach

Ers mis Awst 2025, mae’r tîm wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â rheolwyr tir, sefydliadau cadwraeth, grwpiau cymunedol a phartneriaid lleol i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer adfer natur ledled y penrhyn. Mae’r prosiect bellach yn symud i gyfnod ehangach o ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gan roi cyfle i fwy o bobl helpu i lunio a chryfhau’r cynnig terfynol. 

Yn ogystal â chwblhau’r arolwg ar-lein, gall pobl gwrdd â’r tîm yn Sioe Gŵyr ddydd Sul 2 Awst, lle bydd aelodau’r tîm wrth stondinau Tirwedd Genedlaethol Gŵyr a Chyfeillion Gŵyr. 

Anogir ymwelwyr i siarad â rheolwr y rhaglen, Llŷr Jones; y swyddog data a thystiolaeth, Neha Bhayani; a’r swyddog ymgysylltu, Dr Amanda Roberts, i gael gwybod mwy am y rhaglen arfaethedig, gofyn cwestiynau a chwblhau’r arolwg. 

Mae rhaglen Cysylltiadau Tirwedd Gŵyr yn ymwneud â chreu dyfodol mwy cysylltiedig a gwydn i Ŵyr, lle gall natur ffynnu a lle gall mwy o bobl – yn enwedig pobl ifanc – brofi, deall a gofalu am y tirweddau o’u cwmpas.

Llŷr Jones

Mae’r cynnig hefyd yn cefnogi’r uchelgais ryngwladol gynyddol i ddiogelu a rheoli 30% o dir a môr yn effeithiol er budd natur erbyn 2030, a elwir yn aml yn darged ‘30x30’. Mae Gŵyr eisoes yn gartref i rai o gynefinoedd pwysicaf Cymru a rhai o’i thirweddau gwarchodedig mwyaf gwerthfawr. Drwy adfer cynefinoedd mewn modd cydlynol, cryfhau cysylltedd ecolegol a meithrin stiwardiaeth gymunedol hirdymor, mae gan y prosiect hwn y potensial i fod yn enghraifft flaenllaw o sut y gellir adfer natur ar raddfa tirwedd.” 

(C) Gower National Landscape 

Mae cydweithio â’r gymuned wedi bod yn ganolog i’r prosiect o’r cychwyn cyntaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi gweithio gyda sefydliadau cadwraeth, grwpiau cymunedol, ffermwyr lleol, busnesau a thrigolion ledled Gŵyr ac mewn cymunedau cyfagos yn Abertawe, gan gasglu syniadau, meithrin partneriaethau a helpu mwy o bobl i gysylltu â natur. 

Un o bartneriaethau diweddaraf y tîm oedd gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle heriwyd myfyrwyr i ymgolli yn y dirwedd a chreu ymatebion creadigol wedi’u hysbrydoli gan Ŵyr. Gyda chymorth ariannol gan Gyfeillion Gŵyr, mae eu gwaith yn cynnwys dyluniadau ffabrig gwreiddiol a mapiau sy’n archwilio cyfleoedd i adfer natur yn y dyfodol. Bydd y cyfan i’w weld yn Sioe Gŵyr.

“Mae pobl yn gofalu’n fawr am y dirwedd hon, boed yn ffermwyr y mae eu teuluoedd Mae’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Gŵyr wrth wraidd y rhaglen hon. Rydym am glywed cynifer o leisiau â phosibl er mwyn helpu i lunio’r cynnig fel ei fod yn sicrhau buddion parhaol i bobl ac i natur.

Dr Amanda Roberts

"wedi gweithio’r tir ers cenedlaethau neu’n bobl sydd wrth eu bodd yn treulio amser yma. Ond rydym hefyd yn gwybod bod llawer o bobl nad ydynt eto’n teimlo cysylltiad â dyfodol y dirwedd. Dyna pam rydym wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gwrando, yn dysgu ac yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu rhaglen sy’n gynhwysol, yn uchelgeisiol ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. 

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn rhan hanfodol o’r broses hon, a byddem wrth ein bodd pe bai cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn yr arolwg, naill ai drwy ei gwblhau ar-lein neu drwy ymweld â ni yn Sioe Gŵyr.” 

Yn ogystal â chwrdd â’r tîm yn Sioe Gŵyr a chwblhau’r arolwg, gall pobl hefyd drefnu i gwrdd â’r tîm yn Neuadd Bentref Reynoldston drwy lenwi ffurflen gais ar-lein. 

 

Diolch i Gyfeillion Gŵyr am eu cefnogaeth, ac i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gefnogi achosion da.