Aeth ein tîm Gower Landscape Connections allan o’r swyddfa am ddiwrnod i fynychu Sioe Gŵyr eleni, gan siarad â thrigolion lleol, ffermwyr ac ymwelwyr fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus y prosiect.
Dywedodd Dr Amanda Roberts, Swyddog Ymgysylltu’r rhaglen: “Roedd yn ddiwrnod anhygoel. Roedd pob sgwrs yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r dirwedd, gan sicrhau bod gwybodaeth leol, profiad bywyd a mewnwelediadau’r gymuned wrth wraidd y rhaglen wrth iddi ddatblygu.”
Dyluniadau papur wal wedi'u hysbrydoli gan Dirwedd Genedlaethol Gŵyr, wedi'u creu gan Emmi Joy
Roedd yr ŵyl hefyd yn arddangos gwaith ysbrydoledig gan raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Emmi Joy ac Ioan Jefferies, a grëwyd drwy breswyliadau ecoleg a chelf y prosiect, ochr yn ochr â gwaith Robyn Brooke. Sbardunodd eu papurau wal, tecstilau ac ymchwil fapio sgyrsiau gwych, gan ddangos sut y gall ymarfer creadigol helpu pobl i gysylltu â threftadaeth naturiol a diwylliannol Gŵyr mewn ffyrdd newydd.
Sgert wedi'i brodio â llaw, wedi'i hysbrydoli gan fflora a ffawna Gŵyr, wedi'i dylunio gan Robyn Brooke
“Roedd yn teimlo fel llawer mwy na diwrnod arall yn y gwaith – roedd yn gyfle i fod yn rhan o’r ysbryd cymunedol gwych sy’n gwneud Gŵyr mor arbennig.
Dr Amanda Roberts
Dywedodd Amanda Roberts: “Fel rhywun sy’n byw yng Ngŵyr, mae Sioe Gŵyr bob amser yn un o uchafbwyntiau fy haf. Roedd eleni’n arbennig o werth chweil oherwydd rhoddodd gyfle inni siarad â chymaint o bobl am y prosiect a chlywed eu straeon, eu syniadau a’u dyheadau ar gyfer y dirwedd yn uniongyrchol.
“Roedd yn teimlo fel llawer mwy na diwrnod arall yn y gwaith – roedd yn gyfle i fod yn rhan o’r ysbryd cymunedol gwych sy’n gwneud Gŵyr mor arbennig.
“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i’m gŵr, Phil, am wirfoddoli ei amser i helpu ar y stondin, ac i’m plant am roi help llaw ar ddiwedd y dydd. Ymdrech deuluol ydoedd yn wir.”
Diolch yn fawr iawn i Gyfeillion Gŵyr a thîm Tirwedd Gŵyr Cyngor Abertawe am groesawu ein stondinau’n hael a helpu Amanda a Rheolwr y Rhaglen, Llyr Jones, i ymgysylltu â chymaint o bobl drwy gydol y dydd. Yn olaf, diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfeillion Gŵyr am gefnogi’r gweithgarwch hwn a’n helpu i gysylltu mwy o bobl â’r dirwedd arbennig hon.