Pilot journey launched online
The National Landscapes Association is proud to partner on a new project that launches today. Wild Sounds of Wales combines orchestral music, nature sounds, and virtual reality technology. Developed by Welsh composer Owain Llwyd, the project aims to create an immersive experience of Welsh landscapes through music, sound and technology.
Clwydian Range and Dee Valley National Landscape night sky
The idea for the project emerged during 2021 when Owain was composing "Y Gogarth," a 15-minute orchestral piece for WNO Orchestra celebrating the Great Orme in Llandudno. Around this time, Owain began exploring virtual reality development as a creative. He realised
that VR could be used to transport audiences into the natural environments that inspire his music.
In 2022, Owain attended the Wildscreen festival in Bristol, where he made two important connections. He met Jacinth Latta, a producer/director who had worked on David Attenborough's Glastonbury Festival appearance in 2019. Jacinth's experience with using
nature sounds in large-scale events aligned well with Owain's ideas. At the same festival, Owain also met Axel Drioli, a sound recordist planning his 'Sounding Wild' expedition to record bird migrations from Northern Europe to Western Africa.
These encounters, along with initial discussions with Welsh National Opera, led to the conception of "Wild Sounds of Wales”. The project aims to create an experience that goes beyond traditional concert halls, using VR to bring Welsh landscapes, natural sounds and orchestral music to audiences in a new way.
Wild Sounds of Wales is now a collaborative effort involving both new partnerships and long-standing collaborations from Owain's previous projects. The goal is to create a coalition of organisations with a shared vision for combining music, nature, sound and technology in innovative ways.
The Wild Sounds of Wales Pilot Experience is available from today on the AM website.
- Immerse yourself in a 3-minute virtual reality journey
- Explore Dinefwr through stunning 360-degree footage
- Listen to wildlife sounds captured in spatial audio
- Experience original music performed by the WNO Orchestra
A Glimpse of a Larger Vision
The pilot project serves as a stepping stone for a larger 15-minute VR experience, which will showcase five natural habitats across Wales. Our goal is to inspire hope in the face of climate anxiety by connecting people with the wonders of the natural world, right here in Wales.
Bringing Nature to You
We're committed to making this experience as accessible as possible, reaching out to underserved communities and those who may not have easy access to traditional arts venues or natural spaces.
The mini-tour for the pilot will visit a care home, community spaces, festivals and clinical settings.
The Creative Team
- Narrative Lead: Jacinth Latta, nature Producer/Director known for collaborations with Sir David Attenborough
- Immersive Sound: Axel Drioli from 'Sounding Wild'
- Virtual Reality Artist: Domonic White from 'Rescape Innovation'
- Original Music: Composed by Owain Llwyd and performed by WNO Orchestra
The project is made possible through the partnership of numerous national organisations, including:
WNO, Cadw, National Landscapes, National Trust, Sounding Wild, Rescape Innovation, Disability Arts Cymru, Wales Millennium Centre, AM, Parc Cenedlaethol Eryri, Wildlife Trust South and West Wales, Bryn Seiont Newydd Care Home, Urdd Gobaith Cymru, Llangollen International Musical Eisteddfod, Eisteddfod Genedlaethol, Bangor University, and Ty Cerdd.
Funding support from Arts Council of Wales, PRS Foundation, Arts & Business Cymru Culture Step, Cadw, National Landscapes Association and National Trust.
Mae "Seiniau Gwyllt Cymru" yn brosiect newydd sy'n cyfuno cerddoriaeth gerddorfaol, synau natur, a thechnoleg rhith-realiti. Wedi’i ddatblygu gan y cyfansoddwr Owain Llwyd, nod y prosiect yw creu profiad trochi o dirweddau Cymru trwy gerddoriaeth, sain a thechnoleg.
Daeth y syniad ar gyfer y prosiect i'r amlwg yn ystod 2021 pan oedd Owain yn cyfansoddi "Y Gogarth," darn cerddorfaol 15 munud ar gyfer Cerddorfa’r WNO yn dathlu tirwedd Y Gogarth yn Llandudno. Tua'r amser hwn, dechreuodd Owain archwilio datblygiad rhith-realiti fel artist.
Sylweddolodd y gellid defnyddio VR i gludo cynulleidfaoedd i'r tirweddau sy'n ysbrydoli ei gerddoriaeth.
Yn 2022, mynychodd Owain ŵyl ‘Wildscreen’ ym Mryste, lle gwnaeth ddau gysylltiad pwysig. Cyfarfu â Jacinth Latta, cynhyrchydd/cyfarwyddwr a oedd wedi gweithio ar ymddangosiad David Attenborough i Ŵyl Glastonbury yn 2019. Roedd profiad Jacinth o ddefnyddio seiniau natur mewn digwyddiadau mawr yn cyd-fynd yn dda â syniadau Owain. Yn yr un ŵyl, cyfarfu Owain hefyd ag Axel Drioli, recordydd sain oedd yn cynllunio ei daith ‘Sounding Wild’ i gofnodi ymfudiad adar o Ogledd Ewrop i Orllewin Affrica.
Arweiniodd y cyfarfyddiadau hyn, ynghyd â thrafodaethau cychwynnol gydag Opera Cenedlaethol Cymru, at y cysyniad o "Seiniau Gwyllt Cymru". Nod y prosiect yw creu profiad sy'n mynd y tu hwnt i neuaddau cyngerdd traddodiadol, gan ddefnyddio VR i ddod â thirweddau Cymreig, synau naturiol a cherddoriaeth gerddorfaol i gynulleidfaoedd mewn ffordd newydd.
Mae "Seiniau Gwyllt Cymru" bellach yn ymdrech gydweithredol sy'n cynnwys partneriaethau newydd a chydweithrediadau hirsefydlog o brosiectau blaenorol Owain. Y nod yw creu clymblaid o sefydliadau gyda gweledigaeth gyffredin ar gyfer cyfuno cerddoriaeth, natur a thechnoleg mewn ffyrdd arloesol.
Profiad Peilot Seiniau Gwyllt Cymru.
- Ymgollwch mewn taith rhith-realiti 3 munud
- Archwiliwch Dinefwr trwy luniau syfrdanol 360 gradd
- Gwrandewch ar synau bywyd gwyllt wedi'u recordio mewn sain ofodol
- Profwch gerddoriaeth wreiddiol a berfformir gan Gerddorfa’r WNO
Cipolwg ar Weledigaeth Fwy
Mae’r prosiect peilot yn gweithredu fel carreg gamu ar gyfer profiad VR 15 munud, a fydd yn arddangos pum cynefin naturiol ledled Cymru. Ein nod yw ysbrydoli gobaith yn wyneb pryder hinsawdd trwy gysylltu pobl â rhyfeddodau byd natur, yma yng Nghymru.
Dod â Natur i Chi
Rydym wedi ymrwymo i wneud y profiad hwn mor hygyrch â phosibl, gan estyn allan i gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol a’r rhai nad oes ganddynt, efallai, fynediad hawdd i leoliadau celfyddydol traddodiadol neu fannau naturiol.
Bydd y daith fach ar gyfer y peilot yn ymweld â chartref gofal, mannau cymunedol, gwyliau a lleoliadau clinigol.
Y Tîm Creadigol
- Arweinydd Naratif: Jacinth Latta, Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr natur sy'n adnabyddus am gydweithio â Syr David Attenborough
- Sain Trochi: Axel Drioli o 'Sounding Wild'
- Artist Realiti Rhithwir: Domonic White o 'Rescape Innovation'
- Cerddoriaeth Wreiddiol: Owain Llwyd gyda Cherddorfa’r WNO
Ymdrech Gydweithredol
Mae’r prosiect hwn yn bosibl trwy bartneriaeth nifer o sefydliadau cenedlaethol, gan gynnwys:
WNO, Cadw, Tirweddau Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sounding Wild, Rescape Innovation, Disability Arts Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, AM, Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Cartref Gofal Bryn Seiont Newydd, Urdd Gobaith Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Genedlaethol, Prifysgol Bangor a Ty Cerdd.
Rydym yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, PRS Foundation, Arts & Business Cymru Culture Step, Cadw, y Gymdeithas Tirweddau Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Llanbedrog in the Llyn National Landscape