Adfer coetiroedd a gwrychoedd yn Fferm Llangwyfan

Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Ffermio Bro, a lansiwyd ym mis Ebrill 2025 i gefnogi prosiectau ffermio sy'n gwneud gwelliannau er lles natur a'r amgylchedd ar draws Tirweddau Cenedlaethol a Pharciau Cenedlaethol Cymru. 

Mae gan bob Tirwedd Genedlaethol gynghorydd Ffermio Bro arbenigol i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr, er mwyn datblygu ceisiadau a chefnogi ymgeiswyr drwy'r broses. Mae timau Tirwedd Cenedlaethol yn gosod blaenoriaethau lleol ar gyfer y cynllun, gan ddyfarnu cyllid ar gyfer gweithgareddau sy'n adlewyrchu anghenion lleol. 

Derbyniodd Fferm Llangwyfan yn Sir Ddinbych gyllid Ffermio Bro i gynnal rhaglen eang o adfer coetiroedd ac adfywio gwrychoedd. Nodau'r prosiect oedd gwella cysylltedd cynefinoedd, mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol, a dod â hen goetiroedd y fferm yn ôl i iechyd ecolegol gwell.

Adfer coetiroedd 

Canolbwyntiodd y gwaith coetir ar adfer cydbwysedd rhywogaethau o fewn hen goetiroedd y fferm drwy dynnu coed heintiedig a theneuo rhywogaethau dominyddol – yn enwedig masarnen, rhododendron a llawryf ceirios – er mwyn caniatáu i fflora a ffawna brodorol ffynnu. Cyn y gellid dechrau ar unrhyw reolaeth coetir, gosodwyd 1,200 metr o ffensio newydd i gadw da byw allan o'r ardaloedd coetir yn llwyr – cam yr oedd y tîm prosiect yn ei ystyried yn sylfaenol i lwyddiant y cynllun cyfan. 

Bydd cyfnod pellach o'r prosiect yn mynd i'r afael â phroblemau Jac y Neidiwr ar hyd nant Fron Gelyn, sy'n llifo drwy Goed Pen Llwyn ac ymhellach. Mae'r planhigyn hwn yn achosi erydiad glannau afonydd, yn cystadlu â rhywogaethau eraill ac mae'n enwog am fod yn anodd ei ddifa. Gan fod Fferm Llangwyfan yn agos at ben y cwrs dŵr, dylai rheolaeth lwyddiannus yma ddod â manteision eang ymhellach i lawr yr afon. Caiff y gwaith hwn ei ariannu drwy Ffermio Bro dros y ddwy flynedd nesaf.

Dafydd Roberts Two people are restoring a hedgerow. One is in an orange hi viz jacket, the other in yellow. They both have green trousers and wellies on. They are both cutting at the hedge with long handled loppers and there is a carpet of orange autumn leaves on the floor.

Adferwyd 240 metr o wrych ar Fferm Llangwyfan

Adfer gwrychoedd a chysylltedd cynefinoedd 

Yn ogystal â'r gwaith coetir, roedd cyllid Ffermio Bro yn golygu y gellid adfer 240 metr o wrych yn llawn i greu coridorau bywyd gwyllt yn cysylltu ardaloedd coetir y fferm. Nid oedd adfer gwrychoedd wedi bod yn flaenoriaeth yn Fferm Llangwyfan ers sawl degawd. Yn wir, gellir deud mai’r cyngor a'r cymorth technegol a gynigiwyd drwy gynllun Ffermio Bro oedd yr anogaeth i’r tirfeddiannwyr, Julia a Tudor Hughes, i wneud cais am gyllid. Roedd coppiso, a llenwi bylchau mewn gwrychoedd oedd mewn gwir angen ymyrraeth, yn rhan sylweddol o'r rhaglen, ac roedd cysylltedd cynefinoedd yn un o'r prif resymau y dewiswyd y prosiect ar gyfer cyllid. 

Mae hwn yn brosiect aml-flwyddyn gyda'r potensial am fanteision ecolegol ar raddfa eang ar draws y tirwedd. Yn allweddol i'r lwyddiant oedd ymgysylltu â'r tirfeddiannwr i drafod y prosiect yn ei gyfanrwydd o'r dechrau, gan feithrin ymrwymiad llawn i gwblhau holl amcanion y gwaith.

Gwnaethom gais gyda gwaith arfaethedig i'w hystyried ac roeddem wrth ein bodd fod rhai o'n cynigion wedi llwyddo i gael cyllid prosiect. Roedd arweiniad tîm Ffermio Bro wrth ddarparu canllawiau manwl, gyda chyngor technegol ac ymarferol o flaen ac yn ystod y gwaith yn amhrisiadwy, ac yn rhan hanfodol o'r prosiect cyfan.

Julia Hughes, Fferm Llangwyfan