Awyr Dywyll Gŵyr yn derbyn canmoliaeth ryngwladol
Mae awyr dywyll hudol Gŵyr wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol drwy gael ei ddynodi'n Gymuned Awyr Dywyll Ryngwladol.
Mae'r ardal wledig arobryn sy'n helpu i ddenu miliynau o ymwelwyr i Abertawe bob blwyddyn bellach wedi ymuno â chlwb rhyngwladol dethol sy'n dathlu'r harddwch sydd i'w gael pan fo'r haul yn machlud.
Gŵyr yw'r ardal gyntaf yn Ne Cymru i sicrhau'r anrhydedd hwn gan DarkSky International, sefydliad byd-eang sy'n ymroddedig i arddangos buddion bywyd gwyllt, amgylcheddol a thwristiaeth y nos yng nghefn gwlad.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym yn falch iawn o fod wedi cael statws Cymuned Awyr Dywyll.
“Fel ffermwr yng Ngŵyr rwy'n gwybod sut olwg sydd ar awyr y nos. Mae'n hudol oherwydd gallwch weld llawer mwy o'r sêr, a'r planedau nag y gallwch eu gweld o drefi a dinasoedd sydd wedi'u goleuo'n dda. Mae Gŵyr yn ystod y dydd yn rhyfeddol, mae Gŵyr yn ystod y nos yn cynnig bydoedd newydd.”
“Y flwyddyn nesaf mae Gŵyr yn dathlu 70 mlynedd ers dod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.
“Mae'r anrhydedd diweddaraf hwn yn ein rhoi ar fap rhyngwladol sy'n cynnwys cannoedd o leoliadau ar bum cyfandir, a phob un yn amlygu'r harddwch a'r buddion arbennig i fywyd gwyllt a bodau dynol sydd i'w cael mewn mannau awyr dywyll."
Yn ôl Dark Sky International, mae 99% o Ewrop ac UDA bellach yn byw o dan awyr wedi'i lygru gan olau. Mae llygredd golau yn effeithio ar bob rhywogaeth ar y ddaear - gan gynnwys bodau dynol.
Mae'n dweud bod gormod o olau'n aml yn dod o oleuadau awyr agored, maent yn pwyntio ar wastad ac i fyny i'r awyr, ac yn cael eu gadael ymlaen pan nad oes eu hangen. Mae newidiadau bach i oleuadau'n gwella awyr y nos, wrth arbed arian, lleihau allyriadau carbon a gwneud gwahaniaeth enfawr i fywyd gwyllt.
Nid yw sicrhau statws Cymuned Awyr Dywyll yn hawdd, ac mae'r llwyddiant wedi bod yn ymdrech ar y cyd rhwng y Cyngor, grwpiau lleol fel Cymdeithas Gŵyr a chymunedau yn ogystal â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Er enghraifft, i helpu i roi hwb i'r fenter awyr dywyll, aeth y Cyngor ati i ôl-osod pob un o'r 1,641 o oleuadau stryd yng Ngŵyr gyda llusernau LED sy'n cydymffurfio ag Awyr Dywyll fel y gall pobl weld i ble y maent yn mynd yn y nos gyda llai o lewyrch na lampau arferol.
Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor wedi cyflwyno canllawiau cynllunio arbennig sy'n sicrhau goleuadau sy'n 'gyfeillgar i awyr dywyll' ym mhob datblygiad newydd yng Ngŵyr ac Abertawe.
Dywedodd Paul Lloyd, cadeirydd Grŵp Cynghori Gŵyr, fod gwaith wedi dechrau ar sicrhau statws Awyr Dywyll chwe blynedd yn ôl ac ers hynny mae twf gwirioneddol wedi bod mewn deall y cyfleoedd y mae'n ei gynnig i gymunedau lleol.
Meddai, "Mae pobl yn fwy ymwybodol o fuddion awyr dywyll yng Ngŵyr sy'n annog ac yn cefnogi gweithgarwch bywyd gwyllt nosol, a hefyd y cyfleoedd twristiaeth ac addysgol sydd ar gael i fodau dynol hefyd.
"Mae gwybodaeth am harddwch Gŵyr yn ystod y dydd wedi dod yn ail natur dros y blynyddoedd. Nawr, mae ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yn dysgu am y bydoedd gwahanol sydd ar y ddaear ac yn yr awyr y gallant eu darganfod pan fydd yr haul yn machlud."
Ychwanegodd, "Nid yw sicrhau statws Cymuned Awyr Dywyll gan Dark Sky International wedi digwydd ar ddamwain. Mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd ragorol dros nifer o flynyddoedd gan lawer o unigolion, grwpiau a sefydliadau. Rwyf am ddiolch iddynt am eu cefnogaeth i beri i hyn ddigwydd."