News

Mae Cysylltiadau Tirwedd Gŵyr wedi derbyn £245,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae Cysylltiadau Tirwedd Gŵyr wedi derbyn £245,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Bydd pobl a natur wrth galon prosiect newydd cyffrous yn Nhirwedd Genedlaethol Gŵyr


Mae Cymdeithas Tirlweddau Cenedlaethol a Chymdeithas Gŵyr wrth eu boddau’n cyhoeddi ein bod wedi sicrhau £245,000 o gyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy raglen Cysylltiadau Tirwedd.

Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein cenhadaeth ar y cyd i warchod ac adfer treftadaeth naturiol unigryw Tirwedd Genedlaethol Gŵyr. Mae ein prosiect, Cysylltiadau Tirwedd Gŵyr, yn fenter adfer natur sy’n canolbwyntio ar warchod cynefinoedd allweddol ar draws Gŵyr — gan gynnwys y rhosydd, coetiroedd, morfeydd heli a glaswelltiroedd arfordirol.

Dros y 18 mis nesaf, byddwn yn gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr, cadwraethwyr a phartneriaid cymunedol i gyd-greu cynlluniau rheoli sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n cefnogi iechyd ecolegol hirdymor. Yn ogystal, byddwn yn cynnwys dinasyddion ledled ardal Abertawe — yn enwedig pobl ifanc a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli — drwy addysg, gwirfoddoli, a gweithgareddau allgymorth sy’n helpu i ddatblygu sgiliau, meithrin cysylltiad dwfn â lle, ac ehangu mynediad at dirweddau anhygoel Gŵyr.

“Mae’r cyllid hwn yn gam cyffrous tu hwnt ymlaen i adfer natur yng Ngŵyr. Mae’n rhoi’r cyfle i ni weithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, rheolwyr tir a phartneriaid cadwraeth i greu gweledigaeth gyffredin ar gyfer tirwedd iachach a mwy gwydn. Mae Gŵyr yn llawn cyfoeth o dreftadaeth naturiol, ac mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chysylltu pobl â’r dreftadaeth honno — ac â’i gilydd — mewn ffyrdd sy’n dod â buddion go iawn a pharhaol i natur a chymdeithas. Rwy’n falch iawn o arwain y gwaith hwn ac yn edrych ymlaen at gychwyn arni.”Ieuan Llyr Jones, Prif Swyddog, Prosiect Cysylltiadau Tirwedd Gŵyr

Bydd y cyfnod datblygu hwn yn adeiladu’r partneriaethau, y dystiolaeth a’r momentwm sydd eu hangen ar gyfer cam cyflawni llawer mwy yn y dyfodol — gan ddod â buddion ecolegol a chymdeithasol parhaol i’r ardal. Rydym bellach yn recriwtio dau rôl newydd i yrru’r prosiect hwn yn ei flaen.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’n partneriaid cefnogol am wneud y gwaith hwn yn bosibl — ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau arni.

Cadwch lygad am ddiweddariadau, cyfleoedd i gymryd rhan, a mwy wrth i’r prosiect ddatblygu! Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan — boed gennych gefndir neu ddiddordeb mewn rheolaeth tir, cadwraeth, neu ymgysylltu cymunedol — byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch Ieuan Llyr Jones