Adfer terfynau caeau traddodiadol i gefnogi byd natur a ffermio ar dir Tŷ Fry.

Dyfarnwyd Tirwedd Genedlaethol Llŷn gyllid Ffermio Bro i brosiect i adfer  nodweddion treftadaeth, gwella cysylltedd cynefinoedd a gwelliannau i gynefinoedd y Frân Goesgoch eiconig sy’n nodweddon yn yr ardal.

Mae Tŷ Fry yn ardal o dir fferm hardd ym mhen draw Penrhyn Llŷn, ac mae’r tîm yna'n awyddus i reoli’r tir mewn ffordd sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur. Gwnaethant gais am gyllid Ffermio Bro i adfer y cloddiau pridd sy’n derfynau caeau nodweddiadol o’r ardal leol, yn ogystal i hyn hefyd yn adfer gwrychoedd presennol a phlannu rhai newydd.

Ifan Parry A line of new fencing, conical light coloured wooden uprights with wire fencing in between. It runs alongside a river on the left of the photo.

Ffensio newydd wedi'i osod yn Tŷ Fry gyda chyllid Ffermio Bro

Dywedodd Ifan Parry, swyddog Ffermio Bro ar gyfer Tirwedd Genedlaethol Llŷn (sy’n gweithio fel rhan o dîm wedi’i leoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri): 
‘I ddechrau, roedd pryder y byddai’r gwrychoedd newydd yn lleihau faint o gynefin bwydo oedd ar gael i’r Fran Goesgoch, ond gyda chyngor tîm lleol y RSPB, gwnaethom asesu bod y risg yn isel. Mae’r gwaith wedi profi’n llwyddiant mawr mewn gwirionedd, gyda’r cloddiau yn darparu fwy o gynefin bwydo defnyddiol i’r Fran Goesgoch.’

Fel rhan o’r gwaith bydd bron i gilometr o wrych yn cael ei adfer neu greu, yn ogystal â adfer 500m o gloddiau, gan ddychwelyd y dirwedd at reolaeth fwy traddodiadol, a adfer pwll/Scrape, sy’n darparu cynefin gwerthfawr i adar hir goes. Tyfwyd yr holl goed ar gyfer y gwrychoedd yn lleol ym meithrinfa goed Parc Eryri, gan eu gwneud yn addas iawn i’r ardal. Roedd y terfynau a adferwyd yn golygu caeau llai ar gyfer defaid, gan ganiatáu i’r ffarmwr eu rheoli’n haws. Yn ogystal â hyn mae'n creu fwy o gysgod sy’n golygu y gallent aros y tu allan, gan fwyta glaswellt ffres am fwy o fisoedd o’r flwyddyn.

Mae’r cloddiau a’r gwrychoedd a adferwyd yn gynefin gwych y mae’r tîm yn gobeithio y bydd yn denu Melyn yr Eithin cyn bo hir, rhywogaeth ar restr goch y RSPB y mae eu niferoedd wedi gostwng tua dau draean ers y 1960au. Gobaith bydd buddiant i’r peillwyr sy’n dibynnu ar gloddiau a gwrychoedd am fwyd, hefyd mamaliaid bach eisoes yn elwa o’r cysgod ychwanegol a ddarperir gan y gwrychoedd.

Ifan Parry A tall earth bank (probably around 4 foot high and a similar width) goes off into the distance, it is covered in grass. A fence runs alongside it. The view is long, out to mountains in the very far distance, with green fields and hedges and a blue sky. The earth bank is one of the clodiau created as part of the Ty Fry Ffermio Bro project.

Mae'r cloddiau yn nodwedd dreftadaeth yn ogystal â ffin cae ymarferol